top of page

Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw

Y Ddrama Gymraeg yn ei chadarnleoedd

AMDANOM NI

Sefydlwyd Cwmni Cydweithredol Troed-y-Rhiw ym mis Mehefin 2005 yn dilyn cyfres o sgyrsiau yn canolbwyntio ar botensial y ddrama Gymraeg. Cyfranodd dros 70 o bobl at y drafodaeth, y rhelyw ohonynt yn arweinwyr cymdogaethol ac enthiwsiastwyr y ddrama yn nhair sir y gorllewin. Daw enw’r cwmni o leoliad y trafodaethau hyn - festri Troed-y-Rhiw, ym mherfedd cefn gwlad Ceredigion.

 

Trwy rym brwdfrydedd yr ymateb penderfynwyd bwrw ati i ffurfio cwmni newydd cydweithredol, ac i greu partneriaeth rhwng y cwmni a chymdogaethau Cymraeg ledled Cymru.

​

Nod y cwmni yw porthi meddwl a dychymyg cymdogaethau Cymraeg trwy ymddiried yng nghreadigrwydd chwaraewyr a chynulleidfaoedd yn ddi-wahan.

 

Cofrestrwyd Troed-y-Rhiw yn gwmni cydweithredol cyfyngedig yn NhÅ·’r Cwmnïau ym mis Mawrth 2008.

 

Mae aelodaeth o’r cwmni yn gwbl agored i bawb sy’n cefnogi ei amcanion.

Amdanom ni
Be sy mlan

BE' SY' MLÂN?

Pwyllgor Apêl Cwmffradach

Ydych chi'n cofio 'Steddfod Cwmffradach (2007) ac wedyn Priodas Cwmffradach (2009)? Neu a fuoch chi'n rhan o antur Cymanfa Ganu Cwmffradach yn y gwanwyn eleni?

​

Wel ma' Theatr Troedyrhiw yn mentro nôl i'r gymuned anhydrin honno gyda chynnwys digidol!

 

Dilynwch y cyfan ar grŵp Facebook Pentre' Cwmffradach am yr holl anturiaethau, wrth i'r trigolion amryliw ymateb i'r drychineb o glywed nad yw cymdogaeth Cwmffradach wedi cael targed ariannol i godi arian ar gyfer Eisteddfod Ceredigion 2020! 

65531183_121754089079625_582064088614856
Y Llyfrgell Ddramau

Y LLYFRGELL DDRAMÂU

LLYFRGELL DDRAMAU.jpg

Yn nghyfnod y cwmnïau drama lleol yng Nghymru cyfansoddwyd cannoedd o ddramâu. Digon cyffredin yw safon llawer iawn ohonynt – o fawr o ddiddordeb, bellach. Ond mae yna hefyd berlau yn eu mysg – dramâu y mae’n werth eu darllen heddiw a gwerth ystyried eu llwyfannu o’r newydd. Y sgriptiau llawn potensial hyn yw crynswth Llyfrgell Ddramâu ddigidol hon – sgriptiau o botensial i gwmnïau o bob oedran a statws.

​

Yn rhan o'r Å´yl Ddrama, mae Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw a Theatr Felin-fach wedi bod yn casglu dramâu 'slawer dydd o bob cwr o'r wlad. Rydym wedi casglu dros 250 o ddramâu ar ffurf copi caled ac mae'r rhestr lawn i'w gweld ar y wefan.

Cynyrchiadau

CYMRYD RHAN

creu
Cymryd rhan
Dweud eich dweud

DWEUD EICH DWEUD

“

‘Nid rhyw lwyfaniadau avant garde ffug-ddiwylliannol arti-ffarti, nid rhyw gyfieithiadau Seisnigaidd eu hanfod. Nid rhyw ddramâu cymhleth sy’n denu rhyw lond dwrn i’w gwylio. Na, eu harlwy bob amser yw llwyfaniadau sy’n denu’r bobl gyffredin, yn cynnwys pobl yr ymylon.’

LYN EBENEZER

Y Cymro

“

'Roedd yn un o’r profiadau theatrig dyfnaf imi ei brofi ers blynyddoedd... Roeddwn wedi fy hudo gan berfformiad Cwmni Drama Cymunedol Troed-y-rhiw i’r fath raddau fel y bu imi ymollwng yn emosiynol'

LYN LEWIS DAFIS

Blog Dogfael

“

'Adloniant pur ydy panto wrth reswm, ond yng ngwir draddodiad y theatr gymunedol, cafwyd aml i sylw deifiol am sefyllfa fregus cefn gwlad Ceredigion heddiw. Yng nghanol y chwerthin hwyliog cafwyd cyfle o ddifrif i feddwl am y bygythiadau tawel sy’n llechu yn y cysgodion.'

Adolygiad yn 'Papur Pawb', Talybont

CYSYLLTU

Uned 2

Bryn Salem

Felinfach

Llanbedr Pont Steffan

Ceredigion

SA48 8AD

​

swyddfa[at]theatrtroedyrhiw[dot]com

@CwmniTroedyrhiw

Cysylltu
bottom of page